Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 24 Medi 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14:00 - 16:55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Stephen Martin, Swyddfa Archwilio Cymru Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Local Government and Public Service Nicola Charles, Llywodraeth Cymru Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Sarah Beasley (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Aled Roberts.
2. Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal'
2.1 Bu i’r Cadeirydd wahodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i friffio’r Pwyllgor ar ei adroddiad ‘Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal’.
Pwynt gweithredu:
Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:
· Rhagor o fanylion am y model a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth yr Alban wrth helpu plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal i gael mynediad at addysg uwch.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4 a 7.
4. Opsiynau ar gyfer ymdrin â 'Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal'
4.1 Cytunodd y pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ystyried canfyddiadau adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fel rhan o’i waith craffu ar ddeddfwriaeth sydd ar y gweill ynghylch gofal.
5. Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
5.1 Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, sef yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil; Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; a Nicola Charles, Gwasanaeth Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru.
6. Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Tystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
6.1 Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Mike Usher, Cyfarwyddwr y Grŵp – Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru; a Martin Peters, Rheolwr Cydymffurfiaeth, Swyddfa Archwilio Cymru.
Pwynt Gweithredu:
6.2 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu nodyn atodol i’r pwyllgor ar:
· ei amcangyfrif o oblygiadau ariannol y Bil,
· a’i bryderon yn ymwneud â threfniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau ar gyfer trosglwyddo staff i’r Swyddfa Archwilio Cymru newydd a sefydlir gan y Bil.
7. Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
7.1 Ystyriodd y pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ac Archwilydd Cyffredinol Cymru fel rhan o waith craffu Cyfnod 1 ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).
8. Papurau i'w nodi
8.1 Nododd y pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 17 Gorffennaf 012.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.